Oddi Wrth May i’r Dyfodol

Oddi Wrth May i’r Dyfodol

  • 15/05/2024
  • 4:00 pm - 6:30 pm
  • Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.

    Arddangosfa oriel newydd yn Archifau Morgannwg

     

    Ymunwch a thîm Archifau Morgannwg, Caerdydd, am lansiad gwaith celf unigryw newydd – deg print cynfas o deuluoedd o Gaerdydd yn y presennol a’r gorffennol, pob un a’u drama sain fechan.

     

    Bydd y lansiad sy’n addas i’r teulu oll yn cynnwys gwrandawiadau ar y cyd i’r dramâu ysbrydolwyd gan y lluniau, ynghyd a sgyrsiau gan yr artistiaid, haneswyr a’r archifyddion tu ôl i’r prosiect.

     

    Mae Oddi Wrth May i’r Dyfodol yn cyfuno dau hanner o brosiect ymgysylltiad cymunedol diweddar. Yn ‘From May to Etta, with Love’, creodd dau awdur lleol, Danielle Fahiya a Kyle Lima, chwe drama sain pum munud wedi eu hysbrydoli gan bortreadau anhysbys o gasgliad ffotograffau o 1910 sydd ar gadw yn Archifau Morgannwg.

     

    Yn ‘Oddi Wrthym Ni i’r Dyfodol’, cafodd y teuluoedd cyfoesol o Gaerdydd a leisiodd y dramâu hanesyddol sesiynau tynnu llun eu hun, a recordiwyd eu lleisiau i’r dyfodol.  Yn y cyfamser, bydd eu lluniau yn ymuno a’r rhai o’u cyfatebwyr hanesyddol ar furiau Archifau Morgannwg, rhan o waith celf unigryw yn dathlu amrywiaeth Caerdydd y gorffennol a’r presennol.

     

    Mae ‘From May to Etta, with Love’ ac ‘Oddi Wrthym Ni i’r Dyfodol’ yn brosiectau Applied Stories ar gyfer Archifau Morgannwg a’r Archifau Cenedlaethol.

     

    Mae’r tocynnau i’r lansiad ar Ddydd Mercher 15 Mai am ddim ond mae angen cadw lle o flaen llaw: https://www.eventbrite.co.uk/e/from-may-to-the-future-a-new-portrait-exhibition-at-glamorgan-archives-tickets-872427422907?aff=oddtdtcreator


    © Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd