88 metr sgwâr, Gellir rhannu’r ystafell yn ddwy ardal lai gyda wal symudol wrth-sŵn. Os ydych am ddefnyddio’r cyfleuster hwn, bydd angen rhoi gwybod i ni ar yr adeg rydych yn cadw’r ystafell fel y gallwn ei haddasu cyn/yn ystod eich cyfarfod. DS Bydd staff ond yn symud y wal rannu unwaith y diwrnod a dylech drefnu i hyn ddigwydd yn ystod egwyl gan y bydd angen symud yr holl bobl ac eiddo o’r ystafell.
Cynllun ystafell
Gallwn gynllunio’r ystafell mewn sawl ffordd. Mae’r canlynol yn nodi faint o bobl y gall pob cynllun ystafell ei ddal:
Costau Llogi Ystafell
- Diwrnod llawn – £120
- Hanner diwrnod – £65
- £20 yr awr
Gallwn ddarparu ystafell fach ychwanegol am ffi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â staff Archifau Morgannwg.
I gael gwybod prisiau ar y penwythnos a’r tu allan i oriau, cysylltwch â ni.
Gwybodaeth Ymarferol
Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth ganlynol o gymorth i chi wrth gynllunio eich ymweliad ac i’ch helpu i wneud i’r cyfarfod fynd rhagddo’n ddidrafferth
Offer Technegol
Gallwch ddefnyddio’r offer canlynol:
- Taflunydd
- Gliniadur
- Bwrdd gwyn rhyngweithiol
- Siart troi
- Mynediad Wi-fi
Rhowch ddigon o amser i’ch i hun drefnu popeth cyn y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw offer penodol sydd angen ei ddefnyddio, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.
Mae croeso i chi e-bostio cyflwyniadau i ni yn glamro@caerdydd.gov.uk fel y gallwch eu lanlwytho i’n cyfrifiaduron cyn eich cyfarfod.
Aerdymheru
Mae’r ystafell wedi’i haerdymheru.
Peidiwch â cheisio newid y gosodiadau. Os oes problemau neu gwestiynau gennych, siaradwch ag aelod o staff.
Arlwyo – bwffes, lluniaeth, te, coffi
- Gallwn ddarparu te/coffi/bisgedi am £1 y pen am bob tro y cânt eu gweini.
- Gallwch archebu cinio bwffe am £7 y pen. Bydd angen i chi roi gwybod i ni faint o bobl o leiaf 14 diwrnod cyn y digwyddiad. Bydd angen i chi roi manylion am unrhyw ofynion deietegol penodol i ni.
- Bydd sudd ffrwythau gyda chinio bwffe yn costio £1 y pen.
- Gallwn roi jygiau o ddŵr i chi am ddim.
- Mae’r Archif bum munud o barc manwerthu lle mae sawl caffi a bar brechdanau.
Byrddau a chadeiriau ar gael
Gall y cadeiriau gael eu newid i fod yn fyrddau:
Rhowch wybod i ni a hoffech fanteisio ar y rhain wrth archebu.
Parcio ceir
Mae lle i barcio ceir ar ochr yr adeilad. Os oes llawer o bobl yn dod, gallwn drefnu rhagor o lefydd parcio yng nghefn yr adeilad. Rhowch wybod i ni a oes angen i ni wneud hyn cyn eich ymweliad.
Hygyrchedd
Mae ein hystafell ddigwyddiadau ar lawr gwaelod yr archifau ac mae’n gwbl hygyrch. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni drwy’r wybodaeth ar waelod y pecyn hwn.
Dolen sain
Mae dolen sain ar gael i’r ystafell.
Ystafell weddïo
Os oes angen mynediad i ystafell weddïo ar rywun sy’n dod i’ch digwyddiad rhowch wybod i ni fel y gallwn wneud trefniadau.
Bwydo ar y fron
Rhowch wybod i ni os bydd angen cyfleusterau bwydo ar y fron arnoch fel y gallwn wneud y trefniadau priodol.
Newid babanod
Mae cyfleusterau newid babanod ar gael.
Tai bach
Mae tai bach â mynediad gwastad yng nghyntedd y dderbynfa.
Cofiwch y gall aelodau o staff yn y Dderbynfa helpu ag unrhyw ymholiadau sydd gennych yn ystod y dydd.
Os oes gennych ymholiadau neu fod angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni: