Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth ynghylch effaith y rhyfel ar eich teulu, tref neu ardal, mae’n bosibl y gallai Archifau Morgannwg fod o gymorth i chi.
Mae gennym ystod eang o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi, yn cynnwys llyfrau cofnodion ysgol, cofnodion awdurdodau lleol a llongau, rhestrau anrhydedd, ffotograffau, dyddiaduron, llythyrau a llawer mwy.
Gweithdy ysgolion
Mae Archifau Morgannwg yn cynnig gweithdy ar y Rhyfel Byd Cyntaf am ddim i ysgolion.
Mae’r gweithdai’n edrych ar effaith y rhyfel ar ardaloedd lleol i’ch ysgol. Gellir teilwra’r gweithdy at unrhyw lefel, o CA2 i Fagloriaeth Cymru.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Darllen mwy
Bydd Archifau Morgannwg yn trafod mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf yn ein blog. Bydd eitemau yno gan wirfoddolwyr a staff yr Archifdy.
Ewch i ddarllen y blog yn: http://glamarchives.wordpress.com
Cofrestrwch er mwyn dilyn y blog. Byddwch hefyd yn derbyn hysbysiad bob tro y bydd erthygl newydd yn ymddangos.
Adnoddau ar-lein
Fel rhan o’n gwaith o goffau canrif ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn creu mynegeion ar gyfer nifer o gofnodion o’r cyfnod. Y nod yw ei gwneud hi’n haws i aelodau’r cyhoedd sydd am goffau’r rhyfel eu hunain, neu sy’n chwilio am wybodaeth ar effaith y rhyfel ar eu teulu, tref neu ardal.
Mae’r adnoddau y mae ein gwirfoddolwyr wedi eu creu ar gael i lawr lwytho o’r dudalen hon.